Newid by Ifan Prys

Newid

Daeth Mehefin i’n blino, i’n rhannu,

a drannoeth y dryllio,

tynnwyd y pinnau tanio,

aeth senaffobia ar ffo!

 

Yn y Mail ni cheir ond malais; prysur

yw’r Express â’u hadlais:

un oslef ac un pwyslais

ac un traw all gynnau trais!

 

Straeon i gyfreithloni agweddau

a guddiwyd tan ‘leni

a’r dweud yn awdurdodi

y gred mewn eithafol gri!

 

Sarhau mae’u penawdau nhw er llonni

eu darllenwyr chwerw;

mae rhyfel llym, ar fy llw,

ar y Sul i greu sylw!

 

Onid ynfyd, ynfyd oedd ymadael

fel meudwy’r cenhedloedd?

Ers Mehefin, blin yw bloedd,

hefyd, y lleiafrifoedd!

Ifan Prys

 

Poetry competition winner, ESRC Festival of Social Sciences 2016.
Category: Change – Opportunity or Disruption.

Comments are closed.